Y Grŵp Trawsbleidiol i Gefnogi Gweithwyr Allied Steel and Wire

The Cross-Party Group in Support of Allied Steel and Wire Workers

 

Cofnodion

Dydd Mercher 24 Medi 2014

Ystafell Gynadledda 24,Tŷ Hywel

 

Yn bresennol: Bethan Jenkins AC, Byron Davies AC, Peter Black AC, Jocelyn Davies AC, Gareth Llewellyn (staff cymorth ar ran Leanne Wood AC), John Benson, Dennis Kelleher, Phil Jones, Duncan Higgitt (staff cymorth Bethan Jenkins AC), oddeutu 25 o gyn-weithwyr Allied Steel and Wire ac aelodau o’u teuluoedd

 

1.    Busnes y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

·         Ethol cadeirydd ac is-gadeirydd

Etholwyd Bethan Jenkins AC yn gadeirydd a Byron Jenkins AC yn is-gadeirydd.

Nid oedd mater arall i’w drafod.

 

2.    Y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol, gan John Benson

Ar ôl cael y wybodaeth ddiweddaraf, gwahoddwyd y gynulleidfa i roi ei barn. Roedd cryn ddicter bod yr ymgyrch wedi parhau am 12 mlynedd, a siom am na chafodd llythyr agored at y Prif Weinidog ac aelodau eraill o Lywodraeth y DU yn ddiweddar ateb o gwbl.

 

Gofynnodd y gweithwyr ASW pa Aelodau Seneddol a oedd yn dal i gefnogi. Maent yn credu eu bod wedi derbyn yr hyn a gawsant hyd yma, dim ond oherwydd cwymp y banciau yn 2007, ond roeddent yn awyddus i nodi mai’r hyn y maent yn gofyn amdano yw eu pensiynau llawn 100%, ac nid "cymorth", fel y mae Llywodraeth y DU wedi cyfeirio’n aml at unrhyw setliad.

 

Awgrymodd Bethan Jenkins y dylid mynd â’r ymgyrch i Lundain ar ddyddiad sy’n arbennig gan yr ymgyrch, a bydd aelodau’r Grŵp yn ystyried dyddiad priodol.

 

Awgrymodd John Benson bod y grŵp yn ystyried dylanwadu ar faniffestos yr Etholiad Cyffredinol y flwyddyn nesaf.

 

3.    Y cyfarfod gyda’r Gronfa Diogelu Pensiynau yn fuan.

Dywedodd Bethan Jenkins y bydd yn cyfarfod â Julie Shah o’r Gronfa Diogelu Pensiynau ar 13 Tachwedd, gan fod y Gronfa yn gweinyddu’r Cynllun Cymorth Ariannol, sydd wedi rhoi cyfran o’u pensiynau i gyn-staff ASW. Bydd John Benson yn bresennol yn y cyfarfod hefyd. Dywedodd Bethan ei bod yn aros i glywed gan y Gronfa Diogelu Pensiynau am y trefniadau terfynol, a byddai’n cyflwyno adroddiad i’r grŵp pan fydd yn cyfarfod nesaf.

 

4.    Trafodaeth - cael ein cyfeillion yn San Steffan i ddechrau grŵp trawsbleidiol

Agorodd Bethan Jenkins y drafodaeth drwy gyfeirio at yr ymgyrch Visteon sydd, gyda’i slogan "Cyflogau gohiriedig yw pensiynau" yn trefnu gorymdaith proffil uchel a phrotest bob blwyddyn yn San Steffan. Awgrymodd:

·         Y dylai pob un o’r pedwar AC yn y grŵp trawsbleidiol gysylltu â’u cyfeillion yn San Steffan a’u hannog i sefydlu grŵp trawsbleidiol yn Nhŷ’r Cyffredin. Cytunwyd ar hyn.

·         Llythyr at Lywodraeth y DU, wedi’i lofnodi gan bob Aelod Cynulliad, yn gwrthwynebu’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn gwrthod ariannu’r aneddiadau pensiwn yn llawn a’u mynegeio. Cytunwyd ar hyn;

·         Bod aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol - Aelodau’r Cynulliad a chyn-weithwyr ASW yn cyflwyno’r llythyr hwn at yr Adran Gwaith a Phensiynau. Cytunwyd ar hyn.

·         Gellid trefnu gorymdaith yn Llundain i gyd-fynd â’r digwyddiad. Roedd peth pryder yma ynghylch nifer y bobl a allai fynd i’r orymdaith, felly ymchwilir ymhellach i hyn gan swyddfa Bethan.

·         Gallai grŵp Facebook a chyfrif Twitter gael eu sefydlu i gefnogi’r ymgyrch ar-lein. Cytunwyd ar hyn.

·         Awgrymodd Bethan y dylid trefnu dadl drawsbleidiol yn y Cynulliad ar ASW. Cefnogwyd hyn.

·         Awgrymodd aelodau o’r gynulleidfa y dylid cysylltu â’r undebau, yn benodol, Community ac Unite. Cytunwyd ar hyn.

·         Awgrymodd yr aelodau y dylid cysylltu â thîm Panorama, a fu’n ymdrin ag achos pensiynau ASW pan ddigwyddodd y tro cyntaf. Cytunwyd ar hyn.

 

5.    Unrhyw fater arall

Nid oedd unrhyw fater arall. Penderfynir ar ddyddiad ar gyfer y cyfarfod nesaf yn ystod yr wythnosau nesaf.